Sicrhau bod pobl sy'n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg
Mae’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn darparu arolygiaeth annibynnol o’r diwydiant gorfodi (beilïaid) i sicrhau bod pawb sy’n destun camau gorfodi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trin yn deg.
Rydym yn ymgynghori ar ein Safonau Bregusrwydd a Gallu i Dalu tan 31 Hydref 2025.
Yn eu hanfod, mae'r Safonau drafft hyn yn anelu at wneud dau beth:
gwella'r ffordd y mae cwmnïau ac asiantau gorfodi yn nodi ac yn ymateb i bobl agored i niwed, a
cynyddu'r defnydd o drefniadau talu cynaliadwy ar gyfer pobl na allant dalu eu dyled yn llawn ar unwaith