Ein Blaenoriaethau

Mae gennym genhadaeth glir a phenodol: sicrhau bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu hamddiffyn rhag arfer gwael.

Mae gennym nifer o flaenoriaethau cynnar sy’n allweddol i’n helpu i gyflawni’r genhadaeth hon:

 

Tystiolaeth

Mae angen dybryd am dystiolaeth gadarn yn y sector hwn, wedi’i chyhoeddi’n llawn a gan gorff annibynnol.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth gadarn hon i lywio ein gwaith, gan sefydlu llinell sylfaen ddibynadwy i roi gwir ymdeimlad o ba mor aml y mae materion yn codi yn y broses orfodi a, phan fyddant, o’r hyn sy’n digwydd.

Rydym hefyd yn cyflwyno ffurflenni data chwarterol gan y diwydiant i'n helpu i nodi tueddiadau ac i lywio ein gwaith goruchwylio a monitro ein hunain.

 

Cwmpas ac Achredu

Byddwn yn goruchwylio cymaint o waith â phosibl o dan Reoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau. Bydd hyn yn cynnwys y diwydiant gorfodi sifil, gorfodi'r uchel lys a thimau gorfodi mewnol mewn Awdurdodau Lleol.

Agorodd ein cynllun achredu ar gyfer ceisiadau ar 18 Medi. Drwy ein fframwaith achredu y byddwn yn arfer ein harolygiaeth yn ymarferol, er mwyn creu atebolrwydd ystyrlon.

Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i gwmnïau gorfodi wneud ymrwymiad cyhoeddus i atebolrwydd a safonau uchel. A bydd hefyd yn helpu credydwyr i hybu arfer da drwy sicrhau eu bod ond yn contractio â chwmnïau achrededig sydd wedi gwneud ymrwymiad gweithredol i arolygiaeth yr ECB.

 

Safonau

Rydym yn datblygu safonau newydd ar gyfer gwaith yn y sector gorfodi, er mwyn sefydlu’n gliriach a mwy cynhwysfawr yr hyn y dylid ei ddisgwyl gan gwmnïau gorfodi ac asiantau gorfodi.

Bydd hyn yn cynnwys ystyried materion pwysig megis bregusrwydd a fforddiadwyedd.

Wrth ddatblygu'r safonau hyn, byddwn yn ymgysylltu ac yn ymgynghori'n eang.

Gwrando gyda meddwl agored

Cawn ein harwain gan egwyddorion annibyniaeth, uchelgais, cymesuredd, cydweithredu, a thryloywder i gyflawni ein cenhadaeth o sicrhau bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg.

Yr ydym am iddi fod yn hawdd i’r sector cyngor ar ddyledion, diwydiant, credydwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol wybod beth yr ydym yn ei wneud a pham, er mwyn cyflawni ein cenhadaeth.

Mae cofnodion ein bwrdd, adroddiadau'r Prif Swyddog Gweithredol a cylchlythyrau yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ynghyd â diweddariadau ar ein gwaith ar gyfryngau cymdeithasol. X(Trydar)Linkedin.

Rydym hefyd yn sefydliad sy'n gwrando, sy'n ymroddedig i ddeall gwaith gorfodi a'i effaith, o bob safbwynt a barn. Wrth i ni ddatblygu ein polisïau a’n dulliau gweithredu, byddwn yn ceisio ymgysylltu ac ymgynghori’n eang.

Cofiwch gadw llygad am gyfleoedd i gymryd rhan.

Ni fydd yr ECB bob amser yn gwneud yn union fel y mae pob unigolyn neu randdeiliad yn meddwl y dylem. Ni fyddai hyn yn ymarferol.

Yr hyn y byddwn bob amser yn ceisio ei wneud yw ymgysylltu a gwrando gyda meddwl agored a pheidio ag osgoi sgyrsiau anodd. 

Yn anad dim, byddwn yn esbonio sut a ble rydym wedi ystyried gwahanol safbwyntiau, a pham rydym wedi gwneud y penderfyniadau a wnaed gennym. 

Os ydych am roi adborth i ni neu holi am unrhyw ran o'n gwaith, gallwch wneud hynny trwy gysylltu â ni. cysylltu â ni.

Cynllun gweithredol

2024/25

Cynllun Gweithredol yr ECB 2024/25

Cynllun busnes

2024/25

Cynllun Busnes terfynol yr ECB 2024/25

Ymateb yr ECB i'w Ymgynghoriad Cynllun Busnes Drafft 

Ymgynghoriad ar y Cynllun Busnes Drafft

2023/24

Cynllun Busnes terfynol yr ECB 2023/24

Ymateb yr ECB i'w ymgynghoriad ar y Cynllun Busnes Drafft

Ymgynghoriad ar y Cynllun Busnes Drafft