Chris Nichols, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Ymddygiad Gorfodi
Heddiw, rydym wedi lansio ein cynllun achredu yn ffurfiol! Yn y blog 'arbennig achredu' hwn byddaf yn nodi pam mae hyn yn bwysig, a beth fydd yn ei olygu yn ymarferol.
Beth yw pwrpas hyn i gyd felly?
Sefydlwyd yr ECB i ddod ag atebolrwydd i’r sector gorfodi ac i sicrhau bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg.
Yn absenoldeb pwerau statudol, penderfynasom sefydlu cynllun achredu i ddarparu'r fframwaith y byddem, yn ymarferol, yn ei ddefnyddio i greu atebolrwydd ac arfer ein goruchwyliaeth o gwmnïau gorfodi.
Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i gwmnïau gorfodi wneud ymrwymiad cyhoeddus i atebolrwydd a safonau uchel. A bydd hefyd yn helpu credydwyr i hybu arfer da drwy sicrhau eu bod ond yn contractio â chwmnïau achrededig sydd wedi gwneud ymrwymiad gweithredol i arolygiaeth yr ECB.
Sut bydd yn gweithio?
Bydd angen i gwmnïau ymgeisio'n flynyddol am achrediad, a bydd y fframwaith a'r disgwyliadau yn esblygu dros amser.
Am y flwyddyn gyntaf, fel y nodir yn ein cynllun busnes, bydd yn ofynnol i gwmnïau ymrwymo i’r canlynol er mwyn cael eu hachredu:
- Cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol presennol y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Darparu Ffurflenni Data Chwarterol i ni – byddwn yn ymgynghori ar gynnwys y rhain yn ddiweddarach yn y flwyddyn
- Darparu gwybodaeth i ni ar gais
- Talu'r ardoll yn amserol
Mae'r fframwaith achredu hefyd yn cynnwys rhai sancsiynau lefel uchel y byddwn yn gallu eu cymhwyso am dorri'r meini prawf hyn.
Ym mlwyddyn un, ni fyddwn yn mynd ati i fonitro cydymffurfiaeth â'r safonau presennol, nac yn ymdrin â chwynion, gan y byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ein safonau a'n model goruchwylio ein hunain. Fodd bynnag, bydd gennym y gallu i gynnal adolygiadau wedi'u targedu os byddwn yn dod yn ymwybodol o unrhyw faterion difrifol sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar aelodau'r cyhoedd.
Bydd meini prawf achredu blwyddyn dau yn esblygu i adlewyrchu’r ffaith, o ddiwedd haf 2024, y byddwn yn gweithredu ein safonau a’n cod ymarfer ein hunain ac yn dechrau ar oruchwyliaeth weithredol ac ymdrin â chwynion. Cadwch lygad am fanylion ein syniadau newydd ar y meysydd hyn dros y misoedd nesaf.
Sut gall cwmnïau wneud cais?
I wneud cais am achrediad, bydd angen i gwmnïau gorfodi lenwi a dychwelyd ffurflen gais lle byddant yn ymrwymo i fodloni'r meini prawf achredu a chadw at y fframwaith achredu.
Ceir manylion llawn ar sut i wneud cais, gan gynnwys y ffurflen gais, ar ein gwefan yn www.enforcementconductboard.org/accreditation.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau gorfodi annibynnol ac unig fasnachwyr.
Nid ydym yn ceisio ceisiadau gan dimau gorfodi mewnol mewn Awdurdodau Lleol ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu agor ar gyfer ceisiadau gan y timau hyn o ddechrau 2024, yn dilyn gwaith pellach ac ymgysylltu â’r rhan hon o’r diwydiant.
Edrych ymlaen
Yn fuan ar ôl i mi ddechrau yn yr ECB chwe mis yn ôl, aethom ati i anelu at lansio achrediad erbyn diwedd yr haf. Mae'n wych ein bod bellach wedi cyrraedd y cam hwn.
Mae llawer o gwmnïau gorfodi eisoes wedi cyfrannu arian tuag at greu a gweithredu'r ECB, sy'n dangos cefnogaeth y diwydiant i'n gwaith a'n cenhadaeth. Drwy wneud cais am achrediad, bydd cwmnïau unigol yn awr yn gwneud ymrwymiad ffurfiol pellach i atebolrwydd a safonau uchel. Ac wrth wneud hynny, byddant yn mynd â ni gam yn nes at sicrhau bod pawb sy'n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu hamddiffyn rhag arfer gwael.
O ddiwedd mis Hydref, byddwn yn cyhoeddi cofrestr o holl gwmnïau achrededig yr ECB ar ein gwefan, fel y gall credydwyr a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gorfodi ddechrau ystyried hyn yn eu penderfyniadau contractio. Cadwch olwg am hyn.
Edrychaf ymlaen at rannu diweddariadau pellach ar y nifer sy'n derbyn achrediad mewn blogiau yn y dyfodol. Am y tro, mae'n llawn stêm o'n blaenau!