Gwneud cwyn
Rydym yn ymchwilio i gwynion am weithredoedd cwmnïau gorfodi achrededig yr ECB a'u hasiantau.
Mae ein gwasanaeth yn hollol rhad ac am ddim.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu datrysiad teg i'ch cwyn.
Bydd eich mewnwelediadau yn ein helpu i wella ac ysgogi newidiadau cadarnhaol o fewn y diwydiant gorfodi.
Cwyno am weithredoedd cwmni neu asiant gorfodi
Os hoffech gwyno i ni am weithredoedd cwmni neu asiant gorfodi, neu wirio statws cwyn sy’n bodoli eisoes gallwch wneud hynny yma:
Proses Adolygu Penderfyniad – pan fyddwch yn anhapus gyda'n penderfyniad
Os ydych eisoes wedi cwyno i ni ac yn anhapus gyda’r penderfyniad a wnaethom, neu os ydych yn gwmni gorfodi sy’n anhapus gyda phenderfyniad a wnaethom mewn perthynas â’ch busnes neu asiant sy’n gweithredu ar ran eich busnes, gallwch ofyn am adolygiad o:
- ein penderfyniad i beidio ag ymchwilio i gŵyn;
- ein penderfyniad i eithrio rhan o'r gŵyn o gwmpas yr ymchwiliad;
- ein penderfyniad i atal ymchwiliad; neu
- canlyniad yr ymchwiliad.
Ni allwn adolygu penderfyniad oherwydd eich bod yn anghytuno ag ef.
Er mwyn i ni allu adolygu penderfyniad rhaid i chi gael tystiolaeth newydd neu allu dangos na wnaethom ystyried tystiolaeth benodol a oedd ar gael yn briodol. Rhaid i chi hefyd esbonio sut mae’r dystiolaeth honno neu fethiant i’w hystyried yn briodol wedi effeithio ar ein penderfyniad.
Dylech gyflwyno'ch cais o fewn mis i'r penderfyniad yr ydych am iddo gael ei adolygu.
Mae rhagor o wybodaeth am ein proses adolygu penderfyniadau ar gael yma.
I gyflwyno cais adolygu penderfyniad cwblhewch y Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad
Proses Gwyno Gwasanaeth – pan fyddwch yn anhapus gyda'n gwasanaeth
Os ydych wedi cysylltu â ni neu wedi gwneud cwyn ac rydych yn anhapus gyda lefel y gwasanaeth a ddarparwyd gennym, gallwch wneud cwyn am wasanaeth. Ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel i'n holl gwsmeriaid a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon am ein gwasanaeth cyn gynted â phosibl.
Pan fydd rhywun yn codi pryder, byddwn yn ceisio unioni pethau a dysgu o'u profiad i wneud gwelliannau.
Gellir gwneud cwyn am wasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod yr amser rydym yn darparu gwasanaeth i’r unigolyn neu’r cwmni neu o fewn mis i ddiwedd y gwasanaeth a ddarparwyd gennym. ee mis o'r penderfyniad terfynol ar gŵyn i ni o dan ein Proses Gwyno.
Mae rhagor o wybodaeth am ein proses gwyno am wasanaethau ar gael yma.
I gyflwyno cwyn gwasanaeth cwblhewch y Ffurflen Gwyno Gwasanaeth