Proses gwyno'r cwmni gorfodi.
Rydym wedi cyhoeddi ein safonau a chanllawiau cwynion ac rydym yn disgwyl i gwmnïau gorfodi drosglwyddo i’r safonau cwynion newydd o fis Ebrill 2025.
Yn ystod y cyfnod pontio (hyd at 1 Ebrill 2025), gall cwmnïau gorfodi barhau i weithredu eu proses gwyno bresennol a bydd manylion am hynny ar gael ar eu gwefan. Gallai hyn olygu y bydd gan gwmnïau gorfodi fwy nag un cam ffurfiol yn eu proses gwyno.
O fis Ebrill 2025, bydd pob cwmni gorfodi yn ceisio datrys eich cwyn yn anffurfiol yn gyntaf.
Os nad yw hynny'n bosibl, bydd y cwmni gorfodi yn symud eich cwyn ymlaen i'w cam cwyn ffurfiol.
O fis Ebrill 2025, rydym yn disgwyl i gwmnïau gorfodi gwblhau eu hystyriaeth ffurfiol o gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl iddi gael ei chydnabod.
Mae’n bosibl y byddwn yn ymchwilio i gŵyn os nad yw’r cwmni gorfodi wedi ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Unwaith y byddwch wedi derbyn ymateb terfynol y cwmni gorfodi i'ch cwyn, rydych wedi cwblhau eu proses gwyno.
A ydych naill ai wedi cwblhau proses gwyno’r cwmni gorfodi neu a ydych wedi bod yn aros am ymateb gan y cwmni gorfodi am fwy nag 20 diwrnod gwaith?