Ein Gwaith

Cwynion

Complaints consultation

2024/25

Thank you to all who took the time to respond to the consultation on our complaints process and sanctions.

The consultation has now closed.

We will now consider the responses we have received and will publish the results in due course.  

Ymgynghoriad ar ddull yr ECB o ymdrin â Chwynion a Sancsiynau

Trosolwg

Agwedd allweddol ar gyflawni ein cenhadaeth i sicrhau bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg yw sicrhau bod unrhyw un sy’n credu eu bod wedi cael eu trin yn annheg yn gallu cwyno’n hawdd ac yr ymdrinnir â’u cwyn yn gyflym ac yn deg. Mae hyn yn cynnwys gwella sut mae cwmnïau'n gweithredu eu swyddogaethau cwynion eu hunain a sefydlu system gwynion ail gam annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.

Mae'r dudalen hon yn esbonio: pam rydym yn gwneud hyn; yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud; a'r amserlenni ar gyfer y gwaith hwn.  

Cefndir

Gall y broses bresennol ar gyfer cwyno am asiant gorfodi fod yn gymhleth ac yn anodd ei llywio. Cymhlethir hyn ymhellach gan y ffaith bod gan wahanol fathau o ddyledion a chredydwyr brosesau cwyno a llwybrau apelio gwahanol.   

Dyna pam yr ydym yn blaenoriaethu adolygu gweithdrefnau cwyno presennol, gyda’r nod o greu modd syml, gyson a hygyrch i bobl gael datrys eu cwyn yn y lle cyntaf a chael ei hystyried gan gorff annibynnol os ydynt yn dal i deimlo nad yw wedi cael ei thrin yn deg. 

Ein Rôl

Yn ystod 2024 byddwn yn gweithio i ddarparu system gwyno well i bobl sydd wedi profi camau gorfodi.

I wneud hyn, byddwn yn gosod safonau newydd (gallwch ddarllen mwy yma) ar gyfer y diwydiant gorfodi a ddaw i rym yn hydref 2024. Bydd ein safonau yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer cwmnïau gorfodi o ran sut y maent yn gweithio, gan gynnwys safonau sy'n ymwneud â'u gweithdrefnau cwyno. Bydd y safonau hyn yn cynnwys:

  • diffinio'r hyn a olygwn wrth ymdrin â chwynion yn deg
  • sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawl i gwyno;
  • hygyrchedd prosesau delio â chwynion cwmnïau;
  • amserlenni derbyniol ar gyfer datrys cwynion; a
  • dysgu a gwella o gwynion.

Ein swyddogaeth gwyno

Yn ogystal â gwella'r ffordd y mae cwmnïau'n ymdrin â chwynion a chreu cysondeb ar draws y sector, byddwn hefyd yn sefydlu ein gwasanaeth ymdrin â chwynion ein hunain. Bydd ein swyddogaeth gwyno yn derbyn unrhyw gŵyn newydd am ymddygiad asiant gorfodi neu gwmni lle mae person yn teimlo nad yw ei gŵyn gychwynnol i'r cwmni dan sylw wedi cael ei thrin yn deg neu mewn modd amserol. Bydd y gwasanaeth hwn yn lansio ym mis Ionawr 2025. Bydd canllawiau pellach ar sut i gwyno yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser.

Ni fyddwn yn gallu penderfynu ar gwynion am y ddyled ei hun (e.e. dilysrwydd gwarant neu writ), y ffioedd a godir ar ddyled neu os yw achos wedi cychwyn gweithrediadau cyfreithiol.

Byddwn yn gwneud penderfyniadau am ganlyniad cwynion ar sail a yw'r asiant neu'r cwmni wedi gweithredu yn unol â'n safonau. Lle byddwn yn canfod bod asiantau a/neu gwmnïau wedi torri ein safonau byddwn yn argymell iawn priodol i'r sawl sy'n cwyno. Bydd gweithredu ein hargymhellion ar wneud iawn yn ofyniad gorfodol ar gyfer achredu busnesau gorfodi.

Bydd hon yn system a dull newydd o ymdrin â chwynion ac rydym am sicrhau bod ein holl benderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Am y rheswm hwn, nid ydym yn credu y bydd yn bosibl i ni asesu cwynion hanesyddol yn ddibynadwy (sy'n codi cyn i'n cynllun newydd ddod yn weithredol) lle rydym yn annhebygol o allu cael gafael ar dystiolaeth fel fideo camera corff neu ddogfennau perthnasol. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn siomedig i rai ond rydym yn canolbwyntio ar sicrhau, o ddyfodiad ein cynllun, y bydd pawb sydd â chwyn yn cael mynediad at gynllun cwynion annibynnol. 

Llinellau amser

Ar ôl i ni gwmpasu’r gwaith hwn, gallwn roi rhagor o eglurder ynghylch yr amserlenni ar gyfer y gwaith hwn a nodir isod:

Cyfnod y gwaith Key actions / milestones  Dyddiadau
Cwmpasu
Mapio cychwynnol o'r system gwynion bresennol a chwmpas mewnol y prosiect
Dechrau 2024
Dylunio
Ymgynghori cynnar â rhanddeiliaid ar ddull gweithredu a drafftio safonau ar gwynion
Gwanwyn 2024
Drafftio
Drafftio polisi cwynion a pharhau i ymgysylltu â'r sector
Gwanwyn/haf 2024
Ymgynghori
Cyhoeddi polisi cwynion arfaethedig a lansio ymgynghoriad
Haf/hydref 24
Rhag-gweithrediad
Cyhoeddi gweithdrefn gwyno derfynol
Diwedd yr hydref 2024
Lansio
Yr ECB yn dechrau derbyn cwynion
Ionawr 2025
CY