Bwrdd ECB

Mae'r ECB yn gwmni cofrestredig (13907897).

Caiff ei arwain gan ei Fwrdd o Gyfarwyddwyr Anweithredol. Penodir pob un o'r aelodau Bwrdd hyn am dymor o 3 blynedd.

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf 10 gwaith y flwyddyn a chyhoeddir cofnodion pob cyfarfod ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys pedwar cyfarfod wyneb yn wyneb, a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru a Lloegr.

Cadeirydd – Catherine Brown

Catherine yw Cadeirydd mySociety a Hubbub ac mae’n aelod lleyg o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae Catherine hefyd yn gyn Brif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, adran anweinidogol Llywodraeth y DU, ac mae wedi bod yn Gomisiynydd Cyfle Cyfartal a Chadeirydd Cymdeithas Tai.

Chris Nichols

Chris Nichols yw Prif Weithredwr y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Dechreuodd ei yrfa yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder lle helpodd i gyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol. Symudodd wedyn i Fwrdd Safonau’r Bar lle sefydlodd ddulliau newydd o reoleiddio bargyfreithwyr. Cyn dechrau yn ei rôl bresennol ym mis Mawrth 2023, treuliodd Chris wyth mlynedd yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol lle bu ganddo nifer o uwch rolau gan gynnwys Cyfarwyddwr Polisi a Goruchwylio. nifer o uwch rolau gan gynnwys Cyfarwyddwr Polisi a Goruchwylio.

Alan Cavill

Alan yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Adfywio Cyngor Blackpool, gan gefnogi tref sydd ag 8 o'r deg cymdogaeth fwyaf difreintiedig yn Lloegr.

Ged Curran

Bu Ged yn Brif Weithredwr ym Mwrdeistref Merton yn Llundain am un ar hugain o flynyddoedd gyda phrofiad uniongyrchol o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gorfodi adennill dyledion gan gynnwys sefydlu tîm asiantau gorfodi mewnol.

Althea Efunshile CBE

Althea yw Cadeirydd Metropolitan Thames Valley Housing, a Chadeirydd Ballet Black. Gwasanaethodd Althea yn flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithredol, Addysg a Diwylliant, ym Mwrdeistref Lewisham yn Llundain ac mae wedi gweithio yn yr Adran Addysg a Sgiliau.

Caroline Wells

Mae Caroline wedi meithrin gyrfa sy'n ymestyn dros 35 mlynedd ar draws diwydiannau rheoleiddiedig a di-reoleiddiedig, yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Treuliodd ddau ddegawd gyda'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol a gwasanaethodd am chwe blynedd ar banel CARE Cymdeithas Gorfodi Sifil. Mae Caroline yn cael ei chydnabod yn eang am ei harbenigedd mewn arfer gorau wrth ymdrin â chwynion.