Mae'n anodd credu ei bod hi bellach dros naw mis ers i mi ddechrau yn yr ECB, a bod 2023 yn tynnu i ben. Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyflym ac rwy’n edrych ymlaen at gael egwyl fach dros y Nadolig i ailwefru a pharatoi ar gyfer 2024 llawn cyffro.
Wrth i mi fyfyrio ar eleni, rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl bobl a sefydliadau sydd wedi rhoi o’u hamser, cefnogaeth ac arbenigedd, i mi ac i’r tîm cyfan.
Rydym wedi bod allan gydag asiantau gorfodi, wedi treulio amser gyda chwmnïau gorfodi ledled y wlad, wedi cyfarfod â chynghorwyr dyledion rheng flaen ac wedi gwrando ar alwadau i elusennau cyngor ar ddyledion, ac wedi treulio amser yn gwrando ar gredydwyr i ddeall yn well y pwysau y maent yn ei wynebu. Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn llawer o gynadleddau – cyfle gwych i drafod ein cynllun gwaith a’n dull gweithredu. A'r gair hwnnw eto: gwrando. Drwy'r cyfan, rydym wedi gwrando ar, ac wedi ceisio adlewyrchu barn ac adborth pobl ar yr hyn y dylem fod yn ei wneud a sut.
Gyda phob cyfarfod, a phob ymweliad, y mwyaf brwdfrydig y deuaf ynghylch y ffyrdd y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau’r rhai sy’n wynebu camau gorfodi.
Mae gorfodi yn bwysig i'r cyhoedd, i weinyddu cyfiawnder ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn cael effaith fawr a dwys ar fywydau pobl. Mae angen goruchwyliaeth annibynnol briodol arno ac mae’n haeddu hynny – i roi sicrwydd bod y pwerau uchel hyn yn cael eu harfer yn deg. Drwy ein harolygiaeth, byddwn yn rhoi’r sector ar sylfaen newydd ac yn helpu i lunio ei ddyfodol.
A thrwy 2023 rydym wedi cymryd nifer o gamau ymlaen. Fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun busnes cyntaf erioed (ar gyfer 2023/24). Rydym wedi adeiladu tîm o staff medrus a phrofiadol i yrru ein gwaith yn ei flaen. Mae ardoll 2023/24 wedi’i chasglu oddi wrth dros 40 o gwmnïau ac rydym wedi lansio ein cynllun achredu, gan gyflawni dros 95% o gwmpas y farchnad. Ar ochr y credydwyr, rydym wedi sicrhau nifer cynyddol o ymrwymiadau i weithio gyda darparwyr achrededig ECB yn unig, gan gynnwys pob Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Teimlwn fod momentwm gwirioneddol wrth i ni ddechrau cam nesaf ein gwaith a dechrau mynd i fanylder adeiladu ein fframwaith goruchwylio.
Felly, ar ôl i’r mins peis olaf gael ei fwyta, a’r addurniadau i lawr, pan fyddwn yn dychwelyd ym mis Ionawr, bydd gwaith yn dechrau ar y meysydd allweddol hyn:
- Cytuno ar ein cynllun strategol drafft ar gyfer 2024-27, ein cynllun busnes a’n cyllideb ar gyfer 2024/25 ac ymgynghori ar hyn o fis Chwefror
- Ymgynghori ar gynigion ar gyfer ein ffurflenni data chwarterol gan gwmnïau achrededig
- Penodi cwmni ymchwil i wneud yr ymchwil arfaethedig i arferion carreg y drws – drwy adolygu sampl fawr o fideo a wisgir ar y corff
- Ymgysylltu'n eang â datblygu ein safonau newydd ar gyfer gwaith gorfodi
- Cwmpasu ein gwaith i ddatblygu ein prosesau ymdrin â chwynion ECB ein hunain.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod ac at weithio gyda’r holl randdeiliaid i gyflawni’r prosiectau allweddol hyn.
Am y tro, gobeithio y cewch chi dymor Nadoligaidd bendigedig a phob dymuniad da i chi gyd ar gyfer 2024 oddi wrthyf i, a thîm cyfan yr ECB.
Tan y tro nesaf,
Chris