Cyfarfu’r Bwrdd ar ddydd Llun 4 Rhagfyr ar gyfer ein cyfarfod olaf yn 2023. Er gwaethaf y cyfnod byr ers ein cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd, roedd llawer i’w drafod, wrth i’r tîm fwrw ymlaen â meysydd newydd o’n cynllun gwaith.
Dechreuodd y cyfarfod gyda sesiwn gyda Martin Coppack o Fair by Design, am ddylunio cynhwysol a sut i gynnwys pobl â phrofiad o fyw yn y broses o ddylunio a darparu gwasanaethau (a goruchwylio). Roedd yn sesiwn a oedd yn procio’r meddwl a chytunodd y Bwrdd y gallai mabwysiadu ymagwedd ddylunio gynhwysol at ddatblygu ein prosesau cwyno fod yn arbennig o bwerus. Rydym hefyd yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu â phobl â phrofiad o fyw yn ein gwaith ehangach. Er enghraifft, rwy’n meddwl bod llawer y gallwn ei ddysgu o ddulliau dylunio cynhwysol pan fyddwn yn ystyried safonau ynghylch bod yn agored i niwed.
Symudwyd ymlaen i drafod papur cwmpasu ar ein gwaith i ddatblygu safonau newydd ar gyfer y sector gorfodi. Bydd hyn yn ffocws enfawr i ni yn ystod 2024 a byddwn yn cyhoeddi deunydd ar gwmpas y prosiect hwn ym mis Ionawr. Am y tro, roedd rhai o’r themâu a drafodwyd gennym yn cynnwys:
- Dymunolrwydd safonau ECB yn lle Safonau Cenedlaethol presennol 2014, fel bod un set o safonau cynhwysfawr
- Yr angen i safonau'r ECB fod yn berthnasol i gwmnïau gorfodi ac i asiantau gorfodi unigol
- Efallai y bydd rhai meysydd lle byddwn yn gosod safonau na fyddai’n ymarferol disgwyl cydymffurfiaeth lawn â nhw ar unwaith. Lle bo angen, gallem ddarparu cyfnod gweithredu addas ar rai safonau i ganiatáu ymgysylltu ystyrlon a gwneud newidiadau cynaliadwy.
Cefnogodd y Bwrdd y cynlluniau ar gyfer ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid i lywio’r gwaith hwn, gan gynnwys gweithdai wedi’u hwyluso gydag asiantau gorfodi unigol a phobl â phrofiad personol a sefydlu gweithgor i ddarparu mewnbwn a her reolaidd a manylach wrth i ni ddechrau drafftio.
Yn olaf, buom yn trafod cynigion ar gyfer yr hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn y datganiadau data chwarterol y bydd eu hangen arnom gan gwmnïau achrededig ECB. Roedd y cynigion wedi'u datblygu gyda mewnbwn gan y diwydiant a'r sector cyngor ar ddyledion ac roeddent i fod i gael eu trafod ymhellach gan ein fforwm ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Buom yn trafod pwysigrwydd sicrhau bod yr holl ddata a geisiwn o werth ac yn gymesur, a bod gan yr ECB y gallu i’w ddadansoddi a’i ddefnyddio. Fe wnaethom bwysleisio pwysigrwydd gweld hwn fel un ffynhonnell dystiolaeth yn unig a fydd yn cael ei bwydo i ddull llawer ehangach o oruchwylio, a fydd yn ein helpu i dargedu ein sylw ar ôl i ni ddechrau goruchwyliaeth weithredol. Y cam nesaf fydd ymgynghoriad â ffocws, gan gynnwys gweithdai manylach, o fis Ionawr.
A dyna ddiwedd ein cyfarfod Bwrdd olaf yn 2023. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ganol mis Ionawr 2024, pan fyddwn yn bwriadu trafod ein strategaeth gorfforaethol ddrafft ar gyfer 2024-27, ein Cynllun Busnes a’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a phapur pellach ar ein prosiect safonau . Tan hynny, dymunaf gyfnod Nadoligaidd pleserus a blwyddyn newydd dda i bawb!