Cyngor ac Arweiniad
Sut i gwyno
Ein rôl
Y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yw’r corff goruchwylio annibynnol ar gyfer y sector gorfodi (beilïaid).
Rydym yma i wneud yn siŵr bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg.
I wneud hyn, rydym wedi gosod safonau bod yn rhaid i gwmnïau ac asiantau gorfodi achrededig yr ECB gwrdd.
Os ydych yn credu nad yw cwmni gorfodi achrededig ECB neu asiant sy’n gweithio iddo wedi bodloni’r safonau hyn neu nad yw wedi eich trin yn deg gallwch gwyno.
Cwyno i'r cwmni gorfodi
Dylech gyflwyno'ch cwyn i'r cwmni gorfodi yn gyntaf.
Os nad ydych yn siŵr sut i gwyno i'r cwmni gorfodi, dylai'r wybodaeth berthnasol fod ar eu gwefan.
Os na allwch ddod o hyd iddo, gofynnwch i'r cwmni gorfodi neu'r person yr ydych wedi bod yn delio ag ef am wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn.
Fel arall, gall aelod o'r teulu, ffrind neu sefydliad cynghori eich helpu. Mae yna nifer o sefydliadau cyngor ar ddyledion annibynnol, rhad ac am ddim, sy'n darparu cyngor a chymorth.
Cwyno i'r ECB
Os nad yw'n bosibl datrys y gŵyn gyda'r cwmni, gallwch uwchgyfeirio'ch cwyn atom trwy ddilyn y ddolen hon:
Byddwn yn ymchwilio i gwynion am weithgarwch gorfodi a ddigwyddodd o 1 Ionawr ymlaen. Byddwn yn dechrau derbyn cwynion yn erbyn cwmnïau sydd wedi’u hachredu gyda ni ar 6 Ionawr 2025.
Cwynion cyn 1 Ionawr 2025
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â gweithgarwch gorfodi a ddigwyddodd cyn 1 Ionawr 2025, efallai y bydd ffyrdd eraill o’i dwysáu, yn dibynnu ar y math o ddyled a’r math o asiant gorfodi. Mae’r rhain wedi’u nodi ar wefan y Llywodraeth: Pwerau beili pan fyddant yn ymweld â’ch cartref: Sut i gwyno am feili – GOV.UK (www.gov.uk)
Os yw’r cwmni gorfodi yn gorfodi dyled ar ran Awdurdod Lleol yng Nghymru neu Loegr, mae’n bosibl y bydd modd gwneud cwyn i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Cymru). Efallai y bydd angen i chi gyflwyno'ch cwyn i'r Awdurdod Lleol perthnasol yn gyntaf cyn uwchgyfeirio'ch cwyn. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar sut i uwchgyfeirio eich cwyn ar wefan LGSCO yma: Asiantau gorfodi – Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol neu wefan OGCC yma: Amrywiol eraill – Gorfodi – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.