Amdanom ni
Ein Polisïau
2024/25
Proses gwyno'r gwasanaeth
Polisi ymddygiad afresymol
Cefndir
Mae nifer o bolisïau yn sail i'r ffordd yr ydym yn rhedeg y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ac yn llywodraethu ein rhyngweithio â'r cyhoedd.
Bydd y polisïau hyn yn dod i rym ar y 6ed Ionawr 2025.
Mae'r dudalen hon yn esbonio'r polisïau hyn yn fanylach.
Mae nifer o'r polisïau hyn yn ymwneud â'n gwasanaeth cwynion. Gallwch ddarllen mwy am ein rôl mewn cwynion yma
Polisi Ymddygiad Afresymol
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwynion teg wrth sicrhau diogelwch a pharch ein staff. Mae’r polisi hwn yn amlinellu beth sy’n gyfystyr ag ymddygiad afresymol a sut rydym yn ymateb.
Ymddygiad afresymol yw:
- Iaith ymosodol neu sarhaus
- Bygythiadau
- Aflonyddu
- Gofynion gormodol neu gyswllt parhaus, afresymol sy'n tarfu ar ein gwaith
Ein nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng hygyrchedd ein gwasanaethau a diogelu lles staff.
Os yw ymddygiad achwynydd neu drydydd parti yn afresymol, gallwn gymryd camau gan gynnwys cyfyngu ar ddulliau cysylltu, atal pob cysylltiad uniongyrchol ag unigolyn neu, yn achos unrhyw ddigwyddiadau difrifol, cysylltu â’r heddlu.
Os bydd person yn anghytuno â'n penderfyniad, gallant lansio apêl. Rhaid gwneud apêl o fewn mis i’r penderfyniad cychwynnol a chaiff ei hadolygu gan uwch aelod o dîm yr ECB.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y polisi llawn yma.
Proses Gwyno'r Gwasanaeth
Ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel i bawb sy'n rhyngweithio â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl.
Pan fydd rhywun yn mynegi pryder am y gwasanaeth a ddarparwn, byddwn yn ceisio unioni pethau a dysgu o'u profiad i wneud gwelliannau.
Gall unrhyw un wneud cwyn am ein gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sydd wedi defnyddio ein proses gwyno, trydydd partïon a chwmnïau gorfodi achrededig neu asiantau gorfodi sy'n gweithio i gwmnïau o dan ein harolygiaeth.
Gellir gwneud cwynion am ein safonau gwasanaeth, megis:
- Anfoesgarwch
- Cyfathrebu Gwael
- Oedi diangen
- Methiant i ddilyn y broses
- Cyngor amhriodol
Ni allwn dderbyn cwynion am benderfyniadau neu ganlyniadau. Daw’r rheini o dan ein polisi adolygu penderfyniadau, sydd i’w weld yma.
Gellir gwneud cwynion ar unrhyw adeg yn ystod yr amser yr ydym yn darparu gwasanaeth i’r unigolyn neu o fewn mis o’i ddiwedd drwy lenwi ffurflen, e-bostio, ffonio neu ysgrifennu atom.
Camau i ddatrys cwyn gwasanaeth am yr ECB:
Cam 1: Datrys Anffurfiol
Codi pryderon gyda'r gweithiwr dan sylw neu ei reolwr. Bydd y rhan fwyaf o faterion yn cael eu datrys o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na chaiff ei datrys, bydd y gŵyn yn symud i gam 2.
Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol
Bydd uwch aelod o staff yn adolygu'r gŵyn ac yn darparu ymateb manwl o fewn mis.
Wrth ymateb i’ch cwyn, byddwn yn cynnwys:
- Crynodeb o'r gŵyn
- Tystiolaeth wedi'i hadolygu
- Canfyddiadau ac unrhyw atebion angenrheidiol
- Camau i atal hyn rhag digwydd eto
Os canfyddir ein bod ar fai, gallwn gynnig ateb fel:
- Ymddiheuriad
- Esboniad a manylion unrhyw gamau unioni
- Taliadau am effeithiau emosiynol, ymarferol neu ariannol, os yn berthnasol
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y polisi llawn yma.