Ein Gwaith
Safonau
Safonau ECB ar gyfer Asiantau
Safonau ECB ar gyfer Cwmnïau
Ymateb i'r Ymgynghoriad ar Safonau'r ECB ar gyfer Gwaith Gorfodi a Model Goruchwylio
Trosolwg
Fel rhan o ymrwymiad yr ECB i sicrhau bod pawb sy'n destun camau gorfodi yn cael eu trin yn deg, rydym wedi cynhyrchu set newydd o safonau a chanllawiau ar gyfer cwmnïau gorfodi achrededig yr ECB a'r rhai sy'n gweithio iddynt.
Mae’r safonau’n gosod meincnod newydd ar gyfer gwaith gorfodi, gan sicrhau bod pawb yn y sector gorfodi a phobl sy’n destun camau gorfodi yn gwybod beth mae gorfodi teg yn ei olygu’n ymarferol.
Mae'r dudalen hon yn egluro pam ein bod wedi gwneud hyn; beth mae'r safonau newydd yn ei olygu a beth allwch chi ei ddisgwyl os yw'r cwmni gorfodi sy'n delio â'ch dyled wedi'i achredu gan yr ECB.
Cefndir
Mae'r rheolau sy'n esbonio'r hyn y caniateir i Asiantau Gorfodi ei wneud wrth orfodi dyled wedi'u nodi yn y Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau. Fodd bynnag, nid ydynt yn pennu sut y dylai asiantau gorfodi weithredu wrth wneud eu gwaith.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, yn 2014 cyflwynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) Safonau Cenedlaethol nad ydynt yn rhwymol sy’n pennu rhai disgwyliadau ynghylch sut y dylai asiantau gorfodi ymddwyn.
Mae'r Safonau Cenedlaethol yn cwmpasu rhai meysydd pwysig ond nid ydynt wedi'u diweddaru ers deng mlynedd ac mae ganddynt nifer o fylchau. Mae safonau'r ECB yn adeiladu ac yn gwella ar yr hyn sydd yn y Safonau Cenedlaethol, fel eu bod yn:
- adlewyrchu arfer gorau mewn gorfodi modern ee defnyddio camerâu fideo a wisgir ar y corff;
- cwmpasu gweithredoedd cwmnïau gorfodi a staff rheng flaen gan gynnwys staff canolfannau galwadau yn ogystal ag asiantau unigol
- yn y dyfodol agos, yn mynd i'r afael yn briodol â materion pwysig fel bod yn agored i niwed a'r gallu i dalu.
Buom yn gweithio gyda’r diwydiant gorfodi, y sector cyngor ar ddyledion a’r rhai sydd â phrofiad ymarferol o orfodi i ddatblygu’r safonau hyn i sicrhau eu bod yn gynhwysfawr ac yn uchelgeisiol.
Ein gobaith yw, ymhen amser, y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn tynnu ei Safonau Cenedlaethol presennol ar gyfer gorfodi yn ôl, fel mai safonau’r ECB fydd yr un ffynhonnell safonau ar gyfer gwaith gorfodi.
Yn y cyfamser, rydym wedi alinio ein safonau â’r Safonau Cenedlaethol, fel y gall asiantau gorfodi fod yn hyderus, wrth gyrraedd ein safonau, y byddant hefyd yn bodloni’r Safonau Cenedlaethol.
Safonau ECB
Lansiwyd ein safonau newydd ar 29ed Hydref 2024.
Maent yn nodi'n glir ein disgwyliadau ar gyfer asiantau unigol a chwmnïau yn y sector gorfodi.
Mae bodloni'r safonau hyn yn amod o'n cynllun achredu.
Nod ein safonau yw ysgogi gwelliannau cynaliadwy yn y sector gorfodi drwy ymgorffori arferion gorau presennol a gosod disgwyliadau clir i sicrhau perfformiad cyson uchel, gyda’r un safonau’n cael eu bodloni bob tro y cymerir camau gorfodi gan gwmni achrededig ECB.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar feysydd o'r safonau maes o law.
Ar gyfer asiantau mae ein safonau yn adeiladu ar y Safonau Cenedlaethol presennol ac yn rhoi arweiniad clir ar yr hyn a ddisgwylir gan asiantau gorfodi unigol.
Ar gyfer cwmnïau gorfodi rydym wedi gosod disgwyliadau clir o'r canlyniadau a'r camau gweithredu angenrheidiol, tra'n caniatáu lle i arloesi ac addasu.
Ar gyfer credydwyr Nid ydym wedi cyflwyno unrhyw safonau newydd ar hyn o bryd. O ystyried y rôl bwysig y mae credydwyr yn ei chwarae yn y broses orfodi byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, bydd y safonau presennol ar gyfer credydwyr yn parhau i fod yn berthnasol.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn datblygu safonau newydd ar fregusrwydd a'r gallu i dalu, a byddwn yn ymgynghori ar y rhain maes o law.
Goruchwyliaeth
Buom yn ymgynghori’n ddiweddar ar ein model goruchwylio, sef y ffordd y byddwn yn monitro cydymffurfiaeth â’n safonau. Gan ystyried yr adborth a gawsom, byddwn yn dechrau ar oruchwyliaeth weithredol o fis Ionawr 2025. Byddwn yn cymryd camau pan fyddwn yn canfod achosion o dorri ein safonau, ac ar gyfer achosion difrifol neu barhaus, gallai hyn gynnwys gosod sancsiynau.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr hyn y mae hyn yn ei olygu, sut y byddwn yn rhoi hyn ar waith a chyfleoedd i randdeiliaid helpu i lunio ein hymagwedd yn y misoedd nesaf.
Gweithredu
Rydym am weld ein safonau newydd yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Mae’r safonau newydd rydym wedi’u cyhoeddi ar gyfer asiantau yn nodi’r rheolau rydym yn disgwyl iddynt eu dilyn ac o 1 Ionawr 2025, rydym yn disgwyl gweld y rhain yn cael eu dilyn gan asiantau sy’n gwneud gwaith i gwmnïau gorfodi sydd wedi’u hachredu gan yr ECB.
Rydym hefyd am weld ein safonau ar gyfer cwmnïau yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Gall a dylai cwmnïau weithredu cymaint o'r safonau hyn â phosibl o 1 Ionawr 2025. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y safonau'n mynd y tu hwnt i newid ymddygiad ac yn gofyn am newidiadau i brosesau a systemau busnes yn ogystal â newidiadau diwylliannol dyfnach. Rydym am i'n safonau gynhyrchu gwelliannau cynaliadwy a gall gyflawni hynny gymryd peth amser.
Felly, erbyn 1 Ebrill 2025, rydym yn gofyn i gwmnïau ddarparu hunanasesiad i’r ECB yn erbyn ein safonau newydd ar gyfer cwmnïau (a’r adrannau perthnasol, rhyngddibynnol o’r safonau ar gyfer asiantau). Disgwyliwn i hyn ddangos sut mae'r cwmni'n cydymffurfio â'r safonau newydd. Lle nad yw'r cwmni'n cydymffurfio eto, disgwyliwn weld cynllun clir ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth o fewn cyfnod o amser i'w gytuno gyda'r ECB.
Byddwn yn lansio ein swyddogaeth gwyno ym mis Ionawr 2025. Tra bod cwmnïau yn y cyfnod gweithredu, ni fyddwn yn disgwyl iddynt gydymffurfio'n llawn â'n safonau cwynion newydd. Fodd bynnag, o fis Ebrill 2025, byddwn yn asesu ein cwynion yn erbyn y safonau newydd ar gyfer cwmnïau, gan gynnwys y safonau cwynion.
Byddwn hefyd yn ceisio alinio proses dychwelyd data’r ECB â’r safonau newydd a byddwn yn hysbysu cwmnïau o unrhyw ofynion newydd yn ddiweddarach yn 2024.
Os ydych yn gwmni gorfodi neu’n asiant gorfodi, gallwch ddarllen y safonau newydd llawn yma: Asiantau, Cwmnïau
Rhyngweithio â'r Safonau Cenedlaethol presennol
Ein bwriad yw y bydd ein safonau yn disodli’r Safonau Cenedlaethol presennol ac rydym yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod gan asiantau gorfodi ac asiantaethau un set glir o safonau i’w dilyn.