Cyngor ac Arweiniad
Beth yw gorfodi?
Yng Nghymru a Lloegr, mae asiantau gorfodi, a elwid gynt yn feilïaid, yn gorfodi talu arian sy’n ddyledus i gyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat ac – mewn rhai achosion – unigolion.
Mae asiantau gorfodi yn cael eu pwerau o Atodlen 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007. Yn gyffredinol, maent yn defnyddio'r pwerau hyn o dan warant rheolaeth neu writ, a gyhoeddir gan lys.
Gall asiantiaid gorfodi hefyd ddefnyddio’r pwerau hyn o dan orchymyn atebolrwydd: math o orchymyn llys a gyhoeddir gan y Llys Ynadon sydd fel arfer yn ymwneud â’r dreth gyngor.
Mae’r prif fathau o ddyledion a orfodir yn cynnwys ôl-ddyledion treth gyngor, biliau cyfleustodau, amrywiaeth o ddirwyon llys a chosbau parcio, taliadau ffordd, ardrethi busnes, dyfarniadau tribiwnlys cyflogaeth ac ôl-ddyledion rhent masnachol, cynnal plant heb ei dalu ac arian sy’n ddyledus mewn anghydfodau preifat.
Sut mae'n gweithio?
Bydd cwmnïau gorfodi ac asiantau gorfodi yn gofyn am daliad i fodloni'r warant, gwrit neu orchymyn atebolrwydd.
Os na allant gasglu’r arian sy’n ddyledus, mae ganddynt y pŵer i gymryd rheolaeth dros nwyddau penodol o dan Reoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau 2013.
Mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ac na ellir ei gymryd i reolaeth sydd i'w gweld yma: Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau 2013 (legislation.gov.uk)
Yn ymarferol, dim ond mewn cyfran fach o achosion y mae asiantau gorfodi yn cymryd nwyddau.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal y cofrestr asiant gorfodi ardystiedig (beili)., gyda manylion yr holl asiantau gorfodi sydd â thystysgrif ar hyn o bryd, sy'n golygu y gallant gymryd camau gorfodi.
Nid oes gan gasglwyr dyledion preifat yr un pŵer cyfreithiol ag asiantau gorfodi ardystiedig ac ni chaniateir iddynt gymryd rheolaeth dros nwyddau.
Pwy sy'n cymryd camau gorfodi?
Mae yna wahanol fathau o asiantau gorfodi sy'n casglu gwahanol fathau o ddyledion. Mae hyn yn dibynnu ar y math o ddyled sy'n weddill ac i bwy y mae'r arian yn ddyledus.
Mae gan rai o'r prosesau hyn reolau a rheoliadau gwahanol a ddisgrifir isod:
Asiantau gorfodi ardystiedig (a elwir hefyd yn asiantau gorfodi sifil)
Maent yn gweithredu ar warant rheolaeth neu orchymyn atebolrwydd a gyhoeddir gan lys ar gyfer dyledion megis dirwyon llys ynadon heb eu talu, tramgwyddau a thaliadau traffig ffyrdd, ôl-ddyledion rhent masnachol, ôl-ddyledion treth gyngor, ardrethi annomestig, dirwyon parcio, ac ôl-ddyledion cynnal plant.
Mae'r rhan fwyaf o asiantau gorfodi ardystiedig yn gweithio i gwmnïau gorfodi preifat, ond rhaid i asiantau gael tystysgrif asiant gorfodi wedi'i rhoi gan y Llys Sirol, y mae'n rhaid ei hadnewyddu bob dwy flynedd.
I fod yn gymwys am dystysgrif, rhaid i'r ymgeisydd fodloni barnwr ei fod yn berson “addas a phriodol”, bod ganddo wybodaeth ddigonol am y gyfraith a'r weithdrefn sy'n ymwneud â gorfodi a darparu bond diogelwch.
Swyddogion gorfodi’r Uchel Lys (HCEOs)
Maent yn swyddogion gorfodi yn y sector preifat a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i orfodi Gorchmynion yr Uchel Lys. Gall HCEOs ddefnyddio asiantau gorfodi ardystiedig (CEAs) i'w helpu i orfodi Gorchymyn yr Uchel Lys.
Gallai’r dyledion y mae Swyddogion Gorfodi Sifil yn eu gorfodi gynnwys biliau cyfleustodau, dyledion busnes, dyfarniadau tribiwnlysoedd, neu ôl-ddyledion rhent dros £600.
Mae’r broses o benodi HCEOs yn cael ei llywodraethu gan reolau a wneir o dan Ddeddf Llysoedd 2003.
Beilïaid y llys sirol
Fe’u defnyddir i orfodi dyfarniadau’r Llys Sirol a gorchmynion a wneir mewn tribiwnlysoedd sydd wedi’u trosglwyddo i’r Llys Sirol i’w gorfodi.
Cânt eu cyflogi’n uniongyrchol gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ac maent yn atebol i’r llys am eu gweithredoedd.
Gan eu bod yn weithwyr y Goron nid oes angen iddynt gael tystysgrif.
Wrth adennill arian o dan ddyfarniad Llys Sirol, daw awdurdod beili llys sirol i weithredu o warant rheolaeth.
Gallant gymryd rheolaeth dros nwyddau i adennill arian sy'n ddyledus o dan y gorchymyn a chostau cysylltiedig.
Swyddogion gorfodi sifil (CEOs)
Cânt eu cyflogi gan y Llys Ynadon o dan Adran 92 Deddf Mynediad at Gyfiawnder 1999, Rheolau Llysoedd Ynadon (Swyddogion Gorfodi Sifil) 1990 a Deddf Llysoedd Sirol 2003.
Mae Swyddogion Gorfodi Sifil yn gorfodi ystod o warantau a symiau eraill y mae llys wedi gorchymyn eu talu. Yn ogystal, gallant orfodi gwarantau arestio am dorri dedfrydau cymunedol.
Mae'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi (ECB) yn goruchwylio Asiantau Gorfodi Ardystiedig a Swyddogion Gorfodi'r Uchel Lys.
Mae cynllun achredu’r ECBs yn sicrhau bod cwmnïau gorfodi achrededig, a’u hasiantau, yn atebol i’r ECB. Mae cwmnïau achrededig felly wedi gwneud ymrwymiad gweithredol, cyhoeddus i atebolrwydd.
Gallwch ddarllen mwy am ein cynllun achredu yma
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF sy’n goruchwylio Beilïaid y Llysoedd Sirol a Swyddogion Gorfodi Sifil ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y llys sydd â'r pŵer statudol i ddileu trwyddedau ar gyfer asiantau y mae'n penderfynu nad ydynt yn 'addas a phriodol' i gyflawni eu rôl.