Pwy ydym ni

Y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yw’r corff goruchwylio annibynnol ar gyfer y sector gorfodi dyledion yng Nghymru a Lloegr.

Mae gennym genhadaeth bwysig – sicrhau bod pawb sy’n profi camau gorfodi yn cael eu trin yn deg a’u hamddiffyn rhag arfer gwael.

Mae'r sector gorfodi yn cynnwys asiantau gorfodi (a alwyd yn feilïaid yn flaenorol) a'r cwmnïau y maent yn gweithredu ynddynt.

Cawsom ein sefydlu yn dilyn adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Taking Control for Good' yn 2021 ac ar ôl cydweithrediad rhwng y diwydiant gorfodi sifil ac elusennau cyngor ar ddyledion blaenllaw.

Mae camau gorfodi yn ddarostyngedig i reoliadau a gyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2014. Hyd nes inni gael eu creu, nid oedd unrhyw gorff annibynnol yn gyfrifol am oruchwylio ymddygiad yn erbyn y rheoliadau hyn ac ni fu unrhyw oruchwyliaeth annibynnol o’r diwydiant gorfodi.

Rydym yma i newid hynny.

Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a diwydiant ac yn diwallu angen am sefydliad goruchwylio cytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n darparu atebolrwydd ystyrlon a llais annibynnol ar faterion allweddol. 

Cawn ein hariannu drwy ardoll diwydiant gwirfoddol sy'n ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth a swyddogaethau allweddol.

Darllenwch fwy am ein blaenoriaethau a’n gwaith yma.

Yr hyn a wnawn

Mae’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn darparu arolygiaeth annibynnol i’r sector gorfodi dyledion yng Nghymru a Lloegr.

Cawn ein harwain gan egwyddorion annibyniaeth, uchelgais, cymesuredd, cydweithio a thryloywder.

Mae ein swyddogaethau allweddol yn cynnwys: